top of page
Untitled-2_edited.jpg

Comisiwn Dylunio Cardiau Post

Mae Cwmni Theatr Tin Shed yn lansio eu prosiect creu-lleoedd newydd, ‘Y Post Olaf’, sy’n ymchwilio i’w cartref presennol yn yr hen swyddfa bost (lle mae The Place bellach yn byw), ac economi nos y clwb nos enwog Ritzys.

 

Rydym yn chwilio am artistiaid graffeg a gweledol i ddylunio cyfres o gardiau post pwrpasol a fydd ar gael yn ‘The Place’ fel rhan o’r brosiect Y Post Olaf.

 

Hoffem i'r cardiau post gael eu hysbrydoli gan CASNEWYDD, i ystyried y syniad o'r cerdyn post traddodiadol; ymweld â lleoliad ac i anfon rhywbeth o'ch teithiau. Yn hytrach na bod hyn yn ymwneud â’r adeilad, rydym yn agored i gysyniadau sy’n edrych ar gyrchfan Casnewydd.


 

Gall artistiaid wneud cais am £500 i dalu am eu hamser i ddylunio’r gwaith celf, gyda’r holl hawliau deallusol wedi’u cadw i’r prosiect a Chwmni Theatr Tin Shed unwaith y bydd wedi’i ddylunio a’i argraffu.

 

Yn ogystal â hyn, gofynnwn i artistiaid gwblhau adolygiad a gwerthusiad o’u profiad ar y prosiect hwn ar ôl ei gwblhau. Bydd hyn trwy gyfarfod neu ffurflen ar-lein sy'n gofyn cwestiynau am y broses, canfyddiadau a phrofiad o weithio gyda Chwmni Theatr Tin Shed.

the last post2.gif
bottom of page